CEFNDIR Y CWMNI

Cwmni cynhyrchu clyweledol newydd, a sefydlwyd ym mis Medi 2007, sy’n gweithio ar brosiectau dogfen a cherddorol. Mae bwcibo cyf. wedi ei leoli yn Llandysul a Chaerdydd.

Mae’r ffilm ddogfen ‘La Casa di Dio’, sy’n 52 munud o hyd, ar gael ar DVD, gyda fersiynau Cymraeg a Saesneg (is-deitlo a throslais), a llyfryn 12 tudalen. Mae’r cyfweliadau mewn Cymraeg, Eidaleg a Saesneg. Cafodd y ffilm groeso cynnes mewn sinemau yn Aberteifi, Aberystwyth a Chaerdydd. Daeth yn agos at fil o bobl i’r deg dangosiad cyntaf hyd at Ebrill 2009. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth.

Bydd y ffilm ar gael ar DVD yn y Deyrnas Unedig, drwy’r post o bwcibo cyf. ar ôl Mai 15fed, 2009.

Gweler hefyd:

bwcibo 001 – ‘Maes B 2007’ (3 munud) - fideo ddogfen gerddorol fer, o lwyfan Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2007. Cynhyrchwyd y ffilm mewn cyd-weithrediad â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a Maes B.

Ar gael i’w gwylio am ddim:

www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/2054

Mae’r fideo ar gael i’w gweld hefyd, fel rhan o ofod cyhoeddus Oriel 1 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ers 2007.