LA CASA DI DIO
Ffilm gan Owain Llyr
Cymru, 2009
52 munud
Tystysgrif : E
bwcibo 003
LA CASA DI DIO AR GAEL AR DVD O MAI 15FED, 2009
Mae ‘La Casa di Dio’ yn olrhain hanes eglwys fach Babyddol yn Henllan, Ceredigion, a’i hadeiladwyd gan garcharorion rhyfel Eidalaidd, adeg yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod eu cyfnod nhw yna, o 1943 tan 1946, symudodd yr Eidalwyr allan o un o’r cabanau bwrdd plaster, er mwyn creu Eglwys y Galon Sanctaidd. Gwnaed canwyllbrennau allan o duniau ‘bully beef’, cryndo gan ddefnyddio concrit a weiar ieir, a papur wal o sachau sement. Paentiodd un carcharor ifanc, Mario Ferlito, ffresco o’r Swper Olaf, gyda paent wedi ei greu o foron, tybaco, a tabledi lliw wedi eu ‘benthyg’ o Ffatri Wlan yn Nrefach Velindre.
Roedd y safle mewn cyflwr gwael erbyn 1960, pan brynwyd y lle gan Bob Thomson, Albanwr oedd wedi setlo yn yr ardal ar ôl y rhyfel. Bu Bob yn gofalu am yr eglwys am 47 mlynedd. Daeth miloedd o ymwelwyr o bob ban o’r byd i weld yr eglwys yn ystod y cyfnod hyn.
Mae ‘La Casa di Dio’ yn gyfle i glywed ac i weld un o hanesion cudd y genedl, gyda chyfweliadau Cymraeg, Eidaleg a Saesneg. Ynghyd a’r archif sylweddol, mae yna ddelweddau cyfoes o’r gwersyll a’r ardal, yn gefndir i stori o gyfeillgarwch rhwng cyn elynion. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys portread gweledol o’r safle pan oedd yn wersyll, gyda graffeg symudol gan ‘bait’, y cwmni o Fae Caerdydd a enillodd wobrau BAFTA Cymru am waith ar ‘Tribe’ a ‘Bandit’. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Daisy Wrightson, cyfansoddwraig ifanc o Ynys Môn.
Mae hon yn stori hyfryd, am gydfyw mewn amser o ryfel, a’r eglwys fechan sy’n dal i oroesi.
Mae ‘La Casa di Dio’ ar gael ar DVD drwy’r post o bwcibo cyf. Mae’r pecyn DVD yn cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r ffilm, a hefyd llyfryn 12 tudalen yn cynnwys delweddau o’r ffilm. Bydd y DVD ar gael yn y Deyrnas Unedig, o Mai 15fed, 2009 ymlaen. Gweler y dudalen ‘MANYLION CYSWLLT’ er mwyn archebu ‘La Casa di Dio’ ar DVD neu er mwyn holi ymhellach.